Gŵyl ddigymar yn datgelu ei rhaglen lawn
Mae’r ŵyl celfyddydau ieuenctid GŵylGrai – ac ynddi dros gant o weithdai a digwyddiadau – yn cychwyn ymhen wythnos gwta. Ar fynd o 17 Awst tan 20 Awst yn Llandudno, mae’r ŵyl yn agored i bawb rhwng 14 a 25 oed. Dyma’r unig ŵyl genedlaethol yng ngwledydd Prydain wedi’i rhaglennu’n gyfan gwbl gan bobol ifanc i bobol ifanc ac mae ei chymanfa gyffrous yn ddrych o’r pethau mae gan y curaduron ifanc awch amdanynt.
Mae yna gyfleoedd lawer i bobol ifanc gymryd rhan, dysgu rhywbeth newydd a chyfarfod pobol ifanc unfryd eraill. Eleni mae’r ŵyl yn cynnwys theatr 4-D, acrobateg, mewnosodion ac arddangosfeydd celfyddyd, bît-bocsio a rapio, blogio a hunangyhoeddi, celfyddyd corff a phenwisgoedd yr ŵyl, darlunio llyfrau, pabell bendwmpian, cabaret syrcas, gweithdai crefft, gweithdai dawns a drama, cystadleuaeth ddylunio, celfyddyd yr amgylchedd ar lan y môr, sioe ffasiwn a gweithdai langylchu, gwneud a dangos ffilmiau, gŵyl werin fechan fach, helfa sborioni ryngweithiol, cylchau hwla, gwneud hofranlongau a chyfathrebu gwyddoniaeth, sesiynau cerddoriaeth fyw a jamio, panel diwydiant cerddoriaeth, y ffau sgrifennu Narnia, newyddion yr ŵyl yn ffrydio’n fyw drwy’r ŵyl, opera, barn a dadlau, slam barddoniaeth, barddoniaeth pync, gorsaf a darllediadau radio, sgrin-brintio, disco distaw, perfformiadau safle-benodol a thrwythol, gweithdai goleuo llwyfan, cyfansoddi caneuon, adrodd straeon, sioeau theatr a thwmpath. Bydd yna hefyd breswyliad gan Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru gan gynnwys llais, canu, symud, dyfeisio a thechnegau clyweliad.
Meddai Ruth Garnault, Cyfarwyddwr Gŵyl Celfyddydau Ieuenctid RawFfest GŵylGrai, a gefnogodd y tîm o bobol ifanc greadigol wrth y gwaith o roi’r rhaglen at ei gilydd:
“Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl ddod i Ogledd Cymru. Roedd y llynedd yn llwyddiant ysgubol a chafodd pawb hwyl fawr, yn dod at ei gilydd ac yn gwneud yn fawr o weithgareddau tan gamp. Eleni tyfodd y rhaglen, ac iddi gyfleoedd newydd a chyffrous i bawb.”
Mae’r rhaglen ar gael ar lein yn www.RawFfest.wales. Mae’r tocynnau’n £10 neu £20 am ddiwrnod a £50 am y penwythnos ar ei hyd sy’n cynnwys cinio canol dydd a gyda’r nos. Gellir codi tocynnau ar lein liw dydd a dros nos yn venuecymru.co.uk. Ar ôl codi tocynnau, mae’r prynwyr yn cael cod unigryw er mwyn gallu cadw lle ymlaen llaw mewn gweithdai penodol.
Meddai Tara Williams, y Cynrychiolydd Ieuenctid ar Grŵp Llywio GŵylGrai:
Mae gan ŴylGrai rywbeth i bawb, bachwch docyn a dod gyda’ch ffrindiau i gymryd rhan ac i brofi’r gorau o blith y gorau y gall pobol ifanc yng Nghymru ei gynnig.”
Mae cymanfa’r ŵyl yn cynnwys:
Abbie Parry, Aled Petrick, Amelia Stars, Andy Bonsai, Anya Sims, Burst Publishing, CEG, Gwasanaethau Ieuenctid Conwy, Criw Celf, Theatr Clwyd Cwmni25, Dawns i Bawb, Ella Louise Jones, Emma Louis, Frân Wen, Gemma Lyon, Gweni Llwyd, Hannah Willwood, Jain Boon, Jake Evans, Jess Williams, Kiani Marie, Llŷr Alun Jones, Menai Rowlands, Mess Up The Mess, Mr Phormula, Natasha Borton, TGIC, Operasonic, Theatr Ieuenctid Penygraig, Peter Slania, Rhian Sullivan, Theatr Ieuenctid Rhydyfelin, Richard Elis, Rowen Kimpton, Sera Owen, Sophie McKeand, Tara Williams, Techniquest Glyndŵr, Tim Pugh, Tonya Smith, Theatr Ieuenctid Torch, trac, TV Conwy, Cwmni Ieuenctid Volcano, a Chanolfan Mileniwm Cymru
Cafodd yr ŵyl gefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth a’r rhaglen ewch ar lein i www.rawffest.wales.