EP Colossous ar CEG Records 10.11.17
Bydd Tachwedd y 10fed yn gweld lansiad EP newydd o’r enw ‘Vanarchy in the UK’ gan ganwr-cyfansoddwr Colossous, aka Rich Eardley. Yn cynnwys pedwar trac amrywiol iawn, dyma fydd y pedwerydd artist i ryddhau eleni ar y label o Ogledd Cymru, CEG Records.
Gyda chefndir cerddorol yn mynd yn ôl i’r 90au cynnar pan symudodd i Ogledd Cymru, ymunodd ef (Rich) â’r band Melys ar gitâr bas. Recordiwyd Melys 11 sesiwn i John Peel ar BBC Radio 1, gan gynnwys nifer o sesiynau byw o leoliadau byw ac o’i gartref, a elwir yn ‘Peel Acres.’
Fe wnaeth y band fideo ar gyfer llawer o raglenni teledu cenedlaethol a rhyngwladol, ymddangosiadau rheolaidd ar y radio, yn ogystal â chwarae yn Ŵyl SXSW 2004 yn Austin Texas, UDA.
‘Vanarchy in the UK’ yw enw’r EP sy’n cael ei ryddhau gan Colossous ar CEG Records, yn dilyn thema ‘daith ffordd’ yn fras, ac mae’r trac deitl yn edrych yn gellweirus ar y duedd gynyddol o bobl sy’n byw mewn cartrefi modur wedi’u trawsnewid.
Bydd Colossous yn lansio’r EP gyda’i fand yn Pie, Rhos-on-Sea, ar y 10fed o Dachwedd, gyda chefnogaeth gan artist arall CEG Records, Velvet, sydd ar hyn o bryd i’w glywed ar BBC Radio Wales, ac yn rhyddhau eu EP cyntaf yn fuan iawn.
Am ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni (CEG Records) ar: /
For more information, please do not hesitate to contact us (CEG Records) on
Gary Roberts
e-bost / email: courteousthief@hotmail.co.uk
Ffon / tel: 07521 916 136
Sera Owen (Cymraeg)
e-bost / email: serasongs.official@gmail.com
Ffon / tel: 07800 761 533
I siarad a Colossous (Rich Eardley) yn uniongyrchol, cysylltwch ag ef yma: /
To speak to Colossous (Rich Eardley) directly then you can contact:
e-bostl / email: rich.eardley@yahoo.com
Ffon / tel: 07526 715 636
Neu ewch i: https://cegrecords.com/colosso
Am fwy o wybodaeth am CEG Records dilynwch y linc isod /
To find out more about CEG Records then you can follow this link: https://cegrecords.com/about